Hen safle Alwminiwm Mon - o wefan y cwmni
Fe fydd gwaith trydan sy’n llosgi gweddillion coed yn cael ei adeiladu ar hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi.
Fe gafodd y cynllun ganiatâd gan Lywodraeth Prydain ddoe a’r gobaith yw y bydd yn creu cymaint â 100 o swyddi. Fe fydd 600 yn gweithio yno adeg yr adeiladu.
Yn ôl y perchnogion, Anglesey Aluminium Metal Renewables, fe fydd y gwaith biomas yn gallu cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i anghenion trydan 300,000 o gartrefi.
Fe fydd y trydan yn cael ei ddefnyddio yn y gwaith smeltio drws nesa’, neu’n cael ei anfon i’r Grid Cenedlaethol.
Mewnforio
Y disgwyl yw y bydd yn llosgi gwastraff coed o ffynonellau lleol ac y bydd rhagor yn cael ei fewnforio trwy borthladd Caergybi.
Y Llywodraeth yn Llundain oedd yn rhoi caniatâd oherwydd maint y cynllun. Yn ôl y Gweinidog Ynni, Charles Hendry, roedd yn dangos awydd y Llywodraeth i gael cymysgedd o ffynonellau ynni.
“Bydd gorsafoedd ynni biomas fel hon ym Môn yn cynnig ffynhonnell ynni sy’n ddibynadwy, sicr, hyblyg ac adnewyddadwy,” meddai.