Cynyddu mae’r pwysau ar arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, i fynd i’r afael â gwrth-semitiaeth o fewn ei blaid.
Bellach, mae’r Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-semitiaeth (CAA) wedi cyfeirio’r blaid at Gomisiwn Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig.
Ac maen nhw wedi cwyno am sylwadau’r arweinydd yn ystod un o ddigwyddiadau Diwrnod Coffa’r Holocost, lle y bu iddo, medden nhw, gymharu gweithredoedd Israel â’r Natsïaid.
Mae Jeremy Corbyn wedi ymateb i’r gwŷn trwy gydnabod ei fod wedi rhannu llwyfan â phobol “nad yw’n cytuno â nhw o gwbwl”, ac mae wedi ymddiheuro am achosi “pryder”.
Dyma’r drydedd gwŷn gan y CAA i’r Balid Lafur am Jeremy Corbyn.
Ymateb Llafur
“Mae Llafur wedi ymrwymo i fynd i’r afael â gwrth-semitiaeth o’n plaid a’n cymdeithas,” meddai llefarydd ar ran y blaid Lafur.
“Mae ymosodiadau ffug a phleidiol fel hyn yn tanseilio’r frwydr yn erbyn gwrth-semitiaeth.”
Daw gweithredoedd y CAA rhai dyddiau wedi i aelod o gorff rheoli’r Blaid Lafur, Peter Willsman, gyhuddo rhai Iddewon o fod yn anonest am faint y broblem o wrth-semitiaeth o fewn y blaid.
Ymddiheurodd wedyn gan gydnabod bod ei sylwadau yn “dramgwyddus”.