Mae 2017 yn cael ei chyfrif y bumed flwyddyn gynhesaf ers dros ganrif, yn ôl ystadegau newydd.
Mae’r adroddiad blynyddol gan y Swyddfa Dywydd ar hinsawdd y Deyrnas Unedig yn awgrymu fod yr hinsawdd yn cynhesu.
Yn ôl yr adroddiad ei hun, mae’r dymheredd ar gyfartaledd dros y degawd diwetha’ tua 0.8C yn uwch o gymharu â’r hyn oedd rhwng 1961 a 1990.
Mae gwledydd Prydain hefyd wedi derbyn 8% yn fwy o law a 6% yn fwy o heulwen yn ystod yr un cyfnod.
Mae’r adroddiad yn nodi bod hafau yng ngwledydd Prydain wedi bod yn wlypach rhwng y blynyddoedd 2008 a 2017, gyda 20% yn fwy o law yn syrthio o gymharu ag 1961 a 1990.
Mae naw allan o’r deg blynyddoedd cynhesa’ yn y Deyrnas Unedig wedyn wedi digwydd ers 2002, gyda 2017 yn cael ei gyfrif y bumed flwyddyn gynhesa’ ers i’r record gychwyn yn 1910.
‘Mae’n effeithio arnom ni’
“Dyw newid yr hinsawdd ddim yn unig yn broblem i eraill yn unig, mae’r adroddiad hwn yn dangos ei fod yn effeithio arnom ni yma yn y Deyrnas Unedig,” meddai Dr Stephen Cornelius o’r elusen WWF wrth ymateb i’r adroddiad.
“Rydym mewn cyfnod o oblygiadau. Mae’r tywydd eithafol rydym ni wedi’i brofi yr haf hwn yn effeithio ar ein hiechyd, ein cyflenwad dwr a’n byd naturiol.
“Bydd y digwyddiadau eithafol hyn yn dod yn normal os nad ydym ni’n derbyn y rhybuddion hyn ac yn gweithredu ar frys.
“Mae angen i Lywodraeth Prydain weithio’n galetach i leihau ein hallyriadau carbon ac adeiladu economi glanach a gwyrddach.”