Mae dau o bobol wedi’u harestio mewn perthynas â marwolaeth merch fach chwech oed yng nghanolbarth Lloegr.
Cafodd hi ei tharo gan gar yn ardal Smethwick nos Sadwrn.
Mae dyn 27 oed a dynes 26 oed wedi’u harestio, ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Yn ôl adroddiadau, roedd y ferch fach yn cerdded gyda’i thad pan gafodd hi ei tharo ger croesfan am 10.50y.h.