Mae merch fach chwech oed wedi marw ôl cael ei thynnu o’r môr ym Margate yn Swydd Gaint brynhawn dydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn pryderon am y ferch.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei theulu wedi cael gwybod.

Dydy ei marwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae’r crwner hefyd wedi cael gwybod am y digwyddiad.