Mae adroddiad gan bwyllgor seneddol yn galw am fwy o reolaeth ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol, gan godi pryderon am ymyrraeth Rwsia yng ngwleidyddiaeth Prydain.

Mae’n mynegi pryder neilltuol am hysbysebion camarweiniol gan yr ymgyrchwyr Brexit ‘Vote Leave’ a’r cwmni Cambridge Analytica yn y refferendwm ddwy flynedd yn ôl.

Roedd adroddiad y pwyllgor Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon i fod i gael ei gyhoeddi yfory, ond gyda chopïau ohono wedi cael eu rhyddhau’n answyddogol, mae ei gynnwys eisoes wedi cael sylw yn y wasg.

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

  • Pob deunydd ymgyrchu i gynnwys gwybodaeth am y sefydliad sy’n talu amdano
  • Dirwyon llawer uwch am dorri cyfraith etholiadol
  • Rhwydweithiau cymdeithasol i fod yn gyfreithiol gyfrifol am ddeunydd niweidiol neu anghyfreithlon ar eu llwyfannau
  • Uchafswm ar faint y gall unigolyn ei roi i ymgyrch wleidyddol
  • Heddlu i ymchwilio i weithgareddau tramor SCL Group, chwaer gwmni i Cambridge Analytica sydd wedi mynd i’r wal.

Cyfraniadau tremor

Mae’r Aelodau Seneddol yn codi pryderon fod grwpiau ymgyrchu dros Brexit wedi cael eu hariannu gan wledydd tramor, yn enwedig y grwp Leave.EU.

“Y gred yw bod Arron Banks wedi rhoi £8.4m i’r ymgyrch Brexit, y cyfraniad mwyaf yn hanes gwleidyddiaeth Prydain, ond mae’n aneglur o le y cafodd y fath swm o arian,” meddai’r adroddiad.

“Methodd â’n bodloni fod ei gyfraniadau ei hun, mewn gwirionedd, wedi dod o ffynonellau o fewn y Deyrnas Unedig.”

Mae’r pwyllgor yn pwyso ar lywodraeth Prydain i wneud datganiad ar sut y mae’n ymchwilio i ddylanwad posibl Rwsia ar wleidyddiaeth Prydain. Mae’n dadlau na ddylai’r llywodraeth ddibynnu ar waith yr ymchwiliad sy’n digwydd yn America i ymyrraeth Rwsia yng ngwleidyddiaeth y wlad honno.