Mae’r straen sy’n gysylltiedig â’r ffordd y  mae merched ifanc yn edrych arnyn nhw’u hunain a’u cyrff, wedi cyrraedd ei lefel gwaethaf erioed.

Ac mae dylanwadau’r cyfryngau cymdeithasol a sioeau teledu realaeth fel Love Island, yn rhan o’r broblem, yn ol canfyddiadau arolwg newydd.

Mae mwy na phedair o bob deg o fenywod (42%) rhwng 16 a 24 oed wedi profi straen yn gysylltiedig â’r ffordd y maen nhw’n edrych – canran sydd wedi cynyddu 26% ar nifer 2016, meddai’r adroddiad gan ddadansoddwyr Mintel.

“Mae’r chwilio cyson am ddelfrydau anarferol o brydferthwch yn cael effaith gadarn ar ferched ifanc, sy’n adrodd yn gynyddol am eu hymddangosiad corfforol fel ffactor o straen ac anfodlonrwydd,” meddai’r adroddiad.

“Mae’n debyg bod cyfryngau cymdeithasol a sioeau teledu realiti fel Love Island wedi helpu i feithrin obsesiwn afiach gydag ymddangosiad perffaith y mae menywod yn teimlo bod angen iddyn nhw ymgyrraedd ato.”

Yn gyffredinol, eleni, mae 91% o bobol 16 i 24 oed wedi profi straen o ganlyniad i’r ffordd maen nhw’n edrych, o gymharu â 77% o bobol dros 55 oed.