Mae corff heddlu wedi beirniadu cefnogwyr pêl-droed Lloegr am eu “hymddygiad hurt”, wrth ddathlu buddugoliaeth yn erbyn Sweden dros y penwythnos.
Fe dderbyniodd lluoedd dros Glawdd Offa gannoedd o alwadau 999 yn sgil y gêm wyth olaf Cwpan y Byd, yn bennaf oherwydd achosion o’r hyn sy’n cael ei alw’n “anhrefn feddwol”.
Yn ôl Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), bu’n rhaid i swyddogion ddelio â 387 achos a oedd yn gysylltiedig â phêl-droed.
Ers i’r gystadleuaeth ddechrau mae 1,086 o’r achosion yma wedi’u cofnodi, a 230 o bobol wedi’u harestio.
“Dim esgus”
“Does dim esgus am yr ymddygiad hurt yma,” meddai cynrychiolydd yr NPCC ar faterion pêl-droed, Mark Roberts. “Mae yna ddigon o bwysau ar y gwasanaethau brys yn barod.
“Rydym eisiau i bobol ddathlu a mwynhau eu hunain, ond nid ar draul cefnogwyr sy’n parchu’r gyfraith. Ac nid ar draul adnoddau’r gwasanaethau brys.”
Mae’r Dirprwy Prif Gwnstabl yn mynnu bod ymddygiad cefnogwyr Lloegr yn Rwsia wedi bod yn “hollol wahanol”.
Enghreifftiau o’r achosion
- Ambiwlans yn cael ei ddifrodi ger Pont Llundain
- Dyn yn difrodi to bws deulawr yn Clapham
- Anrhefn ar strydoedd Northampton
- Pobol yn dringo ar doeon bysys yn Southampton