Ty'r Arglwyddi
Mae’r Llywodraeth wedi cael eu rhybuddio rhag newid y gyfraith er mwyn gallu taflu pobol sy’n troseddu o’u cartrefi cyngor neu gymdeithasau tai.

Fe fu nifer o arglwyddi Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol yn siarad yn gry’ yn erbyn y bwriad ar ôl ir Gweinidog Llywodraeth Leol ddweud wrth Dy’r Arglwyddi eu bod wedi dechrau ymgynghori ar y pwnc.

Maen nhw’n gofyn barn am y syniad o gryfhau gallu cynghorau a chymdeithasau tai i dynnu eu cartrefi oddi ar deuluoedd lle mae un o’r aelodau’n troseddu’n lleol.

Roedd y cyn arweinydd Llafur o Gymru, Neil Kinnock, ymhlith y rhai a oedd yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i ddeud yn blaen beth oedd eu bwriad.

Fe rybuddiodd eraill y byddai mesur o’r fath yn creu mwy o galedi ac yn gwahaniaethu’n annheg yn erbyn tenantiaid tai cymdeithasol.

‘Dychrynllyd’

“Bydd llawer o bobol yn meddwl ei bod yn ddychrynllyd bod aelodau diniwed o deulu’n cael eu herlyn am fod un aelod wedi troseddu,” meddai’r Arglwydd Llafur, Alf Dubs.

Fe ddywedodd yr Arglwyddes O’Loan y byddai teuluoedd yn cael eu gyrru i fwy o galedi a hyd yn oed at dorcyfraith pe baen nhw’n colli’u cartrefi.

Mae’r syniad wedi codi yn sgil y terfysgoedd yn Lloegr y mis diwetha’.