Mae’r ffraeo mewnol ymhlith y Torïaid wedi dwysáu, yn sgil sylwadau diweddaraf yr Aelod Seneddol, Jacob Rees-Mogg.
Bydd y Prif Weinidog, Theresa May, yn cyfarfod â’i chabinet yn ddiweddarach er mwyn trafod safiad y Llywodraeth tros fater penodol – y berthynas rhwng Prydain ag Ewrop wedi Brexit.
A gan fod tipyn o anghydfod tros y mater o fewn y cabinet, mae’n debyg bod Downing Street yn ystyried cynllun newydd i fodloni pawb – cynllun am drefniadau tollau.
Mae Jacob Rees-Mogg am weld y Deyrnas Unedig yn gadael y farchnad sengl a’r undeb dollau, ac wedi dweud ei fod yn “hyderus” bydd y Prif Weinidog yn gwireddu hynny.
Ond, mewn erthygl i The Daily Telegraph mae’r AS wedi rhybuddio Theresa May rhag cefnu ar Brexit caled, ac wedi galw arni i “sefyll yn gadarn tros yr hyn mae hi ei hun wedi addo”.
Ymateb Ceidwadwyr
Mae’r erthygl wedi ennyn ymateb tanllyd gan Dorïaid sydd yn frwd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r gweinidog yn y Swyddfa Dramor, Syr Alan Duncan, wedi ei gyhuddo o fod yn “haerllug”, ac o “danseilio” y Llywodraeth a’r Blaid Geidwadol.
“Lleiafrif yw’r asgell dde ideolegol, er gwaetha’r holl sŵn,” meddai. “Dylen nhw dawelu.”
“Blacmel” yw sylwadau Jacob Rees-Morgan yn ôl yr Aelod Seneddol, Simon Hoare.