“Does dim amheuaeth” bod y Deyrnas Unedig wedi bod yn ymwybodol o gamdriniaeth carcharorion a oedd yn cael eu dal gan yr Unol Daleithiau, yn dilyn ymosodiadau 9/11.

Dyna yw casgliad adroddiadau newydd gan Bwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch San Steffan (ISC).

Roedd y Deyrnas Unedig wedi rhoi gwybodaeth i’w cynghreiriaid, mewn 232 achos lle’r oedd swyddogion Prydeinig yn ymwybodol bod ‘na chamdriniaeth, meddai’r adroddiad.

Ac mae’r ISC yn gwrthod yr honiad mai “achosion digyswllt” oedd y rhain.

Er hynny, mae’r pwyllgor yn cydnabod nad oedd ‘polisi’ o anwybyddu’r gamdriniaeth.

“Patrwm o gamdriniaeth”

“Yn ein barn ni, fe wnaeth y Deyrnas Unedig ganiatáu gweithredoedd, a chyflawni rhai, nad oes modd eu hesgusodi,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Dominic Grieve.

“… Mae’n anodd gweld sut y byddai uwch swyddogion wedi methu â chydnabod y patrwm o gamdriniaeth gan yr Unol Daleithiau.

“Does dim amheuaeth bod yr Unol Daleithiau, ac eraill, wedi cam-drin carcharorion; a bod asiantaethau’r Deyrnas Unedig wedi bod yn ymwybodol o hynny.”