Fydd y Blaid Lafur ddim yn gwneud tro pedol ynghylch cefnogi cadw Trident, yn ôl eu llefarydd amddiffyn, Nia Griffith.
Polisi’r blaid yw cefnogi Trident, meddai Aelod Seneddol Llanelli, gan ychwanegu bod ansicrwydd byd-eang ar hyn o bryd yn golygu nad dyma’r amser gorau i leihau’r defnydd o’r rhaglen ataliol.
Pleidleisiodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn erbyn adnewyddu’r rhaglen ym mis Gorffennaf 2016.
Yn dilyn y bleidlais, roedd cefnogaeth i ddefnyddio pedair llong danfor newydd yn lle’r hen longau. Ond mae lle i gredu y gallai gostio hyd at £31bn i wneud hynny, ac mae £10bn ychwanegol wrth gefn wedi cael ei neilltuo.
Newid ei safbwynt?
Wrth siarad â rhaglen Andrew Marr y BBC, dywedodd Nia Griffith: “Polisi Llafur yw ein bod ni’n cadw Trident.
“Mae’r penderfyniadau wedi cael eu gwneud, mae’r gwaith yn mynd rhagddo a dydy hwn ddim yn benderfyniad y byddwn ni’n cefnu arno.
“Felly rydyn ni’n glir iawn, iawn – mae cael rhaglen niwclear ataliol yn rhan bwysig iawn o’n polisi amddiffyn. Mae hefyd yn rhan bwysig o fod yn genedl haen un a bod yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.”
Yn dilyn ei sylwadau diweddaraf, mae Nia Griffith wedi wfftio’r awgrym ei bod hi wedi newid ei safbwynt am Trident.
“Dw i’n credu, os edrychwch chi ar y byd heddiw, mae’n le mwy ansicr o lawer nag erioed o’r blaen.
“Dw i’n credu os edrychwch chi ar y ffordd nad yw’r Unol Daleithiau’n camu i fyny, dw i ddim yn credu mai nawr yw’r amser i waredu ein rhaglen niwclear ataliol.
“Wrth gwrs fod rhaid i ni gadw llygad ar gostau, wrth gwrs fod angen i ni sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian ac mae’n sefyllfa heriol wrth brynu ffynhonnell sengl – llawer mwy anodd na phan fo gyda chi gystadleuaeth.
“Ond ar ddiwedd y dydd, nid dyma’r amser i fod yn lleihau ein rhaglen niwclear ataliol.”