Dywed undebwyr llafur eu bod yn bwriadu dwysau eu hymgyrch am ymchwiliad swyddogol i un o’r digwyddiadau mwyaf treisgar yn streic fawr y glowyr yn yr 1980au.
Fe fu gwrthdaro ffyrnig rhwng yr heddlu a phicedwyr yn Orgreave, gweithfeydd golosg yn Ne Swydd Efrog ar 18 Mehefin 1984.
Cafodd 95 o bobl eu cyhuddo o reiat ac anhrefn treisgar y diwrnod hwnnw, ond gollyngwyd yr achosion yn eu herbyn.
Heddiw, 34 mlynedd yn ddiweddarach, roedd glowyr a gafodd eu harestio ar y pryd ymysg tua 200 o bobl a ddaeth i Orgreave i nodi’r achlysur.
Fe fuon nhw’n gorymdeithio heibio i safle’r gwaith golosg sydd bellach yn stad o dai ac wedi ei weddnewid y tu hwnt i unrhyw adnabyddiaeth.
Cefnogaeth Jeremy Corbyn
Cafodd neges gan Jeremy Corbyn ei ddarllen i’r dorf:
“Ni fydd creulondeb Orgreave yn cael ei anghofio. Fe fydd llywodraeth Lafur yn cynnal ymchwiliad i Orgreave fel y bydd gwirionedd a chyfiawnder yn dod i’r amlwg.”
Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi penderfynu cynnal adolygiad annibynnol i effaith plismona yn ystod streic y glowyr yn yr Alban.
Mae’n ymgyrchwyr yn pwyso ar i’r Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid wneud yr un peth, ar ôl i’w ragflaenydd Amber Rudd wrthod galwadau am ymchwiliad neu adolygiad annibynnol ym mis Hydref 2016.