Dyw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ddim wedi trio cyffuriau, ac mae mwy ohonyn nhw’n pryderu am oryfed, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n pryderu am effeithiau cyffuriau ar eu hiechyd meddwl, ac ar gymdeithas.

Yn ôl gwaith Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) a Phrifysgol Buckingham, dyw 71% o fyfyrwyr heb gymryd cyffuriau tra’u bod nhw yn y brifysgol.     

Mae 44% yn credu bod goryfed yn peri bygythiad “difrifol iawn” i’w hiechyd, tra bod 33% yn credu bod cyffuriau anghyfreithlon yn fwy peryglus.

“Cywiro’r darlun”

“Mae’r arolwg yma yn cywiro’r darlun gwylltach sydd gennym o fyfyrwyr heddiw,” meddai Cyfarwyddwr HEPI, Nick Hillman.

“Maen nhw’n gweithio’n galetach, ac yn llai hedonistaidd, nag y mae’r ddelwedd yn ei awgrymu.

“Mae’n glir bod y mwyafrif yn cydnabod peryglon deunyddiau anghyfreithlon.”

Cafodd 1,000 o fyfyrwyr eu holi fel rhan o’r arolwg.