Mae ffigyrau newydd yn dangos bod mwy o swyddi wedi cael eu colli ar ol i’r cwmni adeiladu a gwasanaethau cyhoeddus Carillion fynd i’r wal ddechrau’r flwyddyn, gan ddod â’r ffigwr i dros 2,350.
Yn ôl y Derbynnydd Swyddogol, mae bron i 12,000 o swyddi wedi’u hachub ers i’r cwmni fynd i’r wal ddechrau mis Ionawr eleni, sef dwy ran o dair o’r gweithlu gwreiddiol.
Mae 215 o weithwyr wedi cael ei symud at gyflogwyr eraill, a 1,129 pellach wedi gadael y cwmni er mwyn naill ai dod o hyd i waith arall neu ymddeol.
Mae’r cyfanswm o 2,352 o swyddi sydd wedi’u colli yn cyfri am 13% o weithlu Carillion.