Mae ymgyrchwyr wedi colli apêl yn y Goruchaf Lys ynghylch yn erbyn deddfwriaeth erthyglu Gogledd Iwerddon – er bod mwyafrif o gyfreithwyr yn datgan ei bod yn “anghydnaws” â chyfreithiau hawliau dynol.
Mae mwyafrif ar banel o saith o farnwyr yn Llundain wedi dyfarnu nad oes gan Gomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon unrhyw sail gyfreithiol i herio’r ddeddfwriaeth sy’n gwrthod yr hawl i ferched gael erthyliad.
Ond, er bod yr apêl wedi methu, mae’r barnwyr wedi rhoi ar gofnod y “farn glir” bod y ddeddfwriaeth bresennol yn “anghydnaws” â chyfreithiau hawliau dynol Ewrop.
Does gan y Goruchaf Lys “ddim awdurdod” i wneud datganiad yn anghytuno â’r gyfraith fel ag y mae, medden nhw, na dileu’r gyfraith.