Mae arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi talu teyrnged i weddw un o’i ragflaenwyr sydd wedi marw yn 102 oed.

Roedd Mary Wilson yn briod â chyn-Brif Weinidog Prydain, Harold Wilson, ond wedi gwneud enw iddi’i hunan hefyd fel bardd ac fel beirniad llenyddol.

“Mae’n drist meddwl fod Mary Wilson wedi marw,” meddai Jeremy Corbyn ar wefan gymdeithasol Twitter heddiw.

Fe’i ganwyd yn Mary Baldwin, merch i’r gweinidog eglwysig, Daniel Baldwin. Fe briododd hi Harold Wilson ar Ddydd Calan, 1940.

Fe fywiodd hi ddau ddegawd yn hirach na’i gwr, a fu farw yn 1995. Fe fu yntau’n Brif Weinidog Prydain ar ran y Blaid Lafur am ddau gyfnod – rhwng 1964 a 1970; ac yna rhwng 1974 ac 1976.