Mae tram wedi taro a lladd person yn ardal West Bromwich yng nghanolbarth Lloegr.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r dref toc cyn 5 o’r gloch fore heddiw.
Bu farw’r unigolyn yn y fan a’r lle.
Mae ymchwiliad ar y gweill, ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.
Fe fu cryn oedi ar deithiau yn yr ardal yn ystod y bore.