Mae’n “amhosib” rhagweld sut y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar wledydd Prydain, yn ôl Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond.

Daw’r sylw wedi i Lywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, ddweud bod Brexit eisoes yn costio £10bn y flwyddyn i’r Deyrnas Unedig.

“’Dydyn ni ddim wedi gorffen trafod â’r Undeb Ewropeaidd, felly mae gwneud asesiad o effaith ein hymadawiad yn amhosib,” meddai Philip Hammond gerbron Tŷ’r Cyffredin.

“Rhaid gwybod beth fydd yn ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol, cyn gwneud hynny. Agenda’r Llywodraeth yma yw cael y ddêl gorau posib i Brydain.”