Mae Dennis Nilsen, oedd yn cael ei adnabod fel ‘Llofrudd Muswell Hill’, wedi marw’n 72 oed.

Bu farw yng ngharchar Full Sutton yn Nwyrain Swydd Efrog, 34 o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei garcharu am oes.

Mae lle i gredu ei fod e wedi lladd hyd at 15 o ddynion, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddynion hoyw digartref, yn ei gartref yn Llundain y 1970au a’r 1980au.

Ar ôl eu lladd, fe fyddai’n cadw eu cyrff yn ei gartref am rai diwrnodau cyn eu torri nhw’n ddarnau.

Cafodd ei droseddau eu darganfod pan gafodd darnau o gyrff y dynion eu darganfod wedi’u golchi i ffwrdd mewn draen.

Carchar

Cafodd ei garcharu am oes yn 1983, a’r argymhelliad oedd y dylai dreulio o leiaf 25 o flynyddoedd dan glo ar ôl i lys ei gael yn euog o chwe chyhuddiad o lofruddio a dau gyhuddiad o geisio llofruddio. Cafodd ei ddedfryd ei huwchraddio’n ddiweddarach fel na fyddai fyth yn cael mynd yn rhydd.

Er nad oes amgylchiadau amheus, fe fydd ymchwiliad annibynnol i’w farwolaeth.