Mae gwyddonwyr yn credu eu bod wedi dod o hyd i ddeunydd sy’n medru gwrth-droi moelni.

Ar hyn o bryd, mae modd fynd i’r afael a’r broblem trwy dderbyn llawdriniaeth, neu trwy ddefnyddio’r cyffuriau Minoxidil a Finasteride.

Ond dyw’r ddau gyffur yma ddim yn hynod o effeithiol, ac maen nhw’n medru achosi sgil effeithiau.

Ar ôl cynnal cyfres o arbrofion, mae ymchwilwyr bellach yn meddwl bod modd trin y cyflwr â chyffur osteoporosis – deunydd sy’n trin esgyrn brau.

Arbrofion

“Mae’r deunydd newydd yma yn gyffrous oherwydd ei botensial,” meddai’r gwyddonydd, Dr Nathan Hawkshaw o Brifysgol Manceinion.

“Rhyw ddydd, mi allai wneud gwahaniaeth mawr i bobol sy’n colli’u gwallt. Ond, bydd angen rhagor o arbrofion i weld os ydy’r deunydd yn effeithiol a’n ddiogel.”