Fe fydd 110 o bobol ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ysgol gynradd a meithrinfa ym Mhowys yn cael cynnig brechiad ar gyfer Hepatitis B.
Daw hyn yn dilyn achosion o’r haint yn ardal Llan-gors, ac fe fydd sesiwn frechu yn cael ei chynnal ddydd Iau yma (Mai 10) i ddisgyblion a staff yn yr ysgol gynradd leol a Meithrinfa Mes Bach – sy’n gweithredu o’r un safle.
Erbyn hyn mae tri achos o’r haint wedi’u cadarnhau yn y gymuned ehangach, gan gynnwys dau ddisgybl sy’n mynd i’r ysgol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau ei bod yn cydweithio ag adran iechyd yr amgylchedd yng Nghyngor Sir Powys, ynghyd â Bwrdd Addysgu Iechyd Powys, er mwyn ymchwilio i ffynhonnell yr haint, ac i gyflwyno brechiad a chyngor i bobol.
Rhybuddio am yr haint
“Mae Hepatitis A yn haint feirysol, byrhoedlog fe arfer sydd â symptomau amhleserus ond a gall fod yn ddifrifol ar adegau prin,” meddai llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Gall y symptomau gynnwys salwch fel y ffliw, fel blinder, poenau cyffredinol, cur pen a gwres uchel, yn ogystal â cholli archwaeth am fwyd, cyfog neu chwydu, poenau yn yr abdomen, clefyd melyn, troeth tywyll iawn a chroen coslyd.
“Golchi dwylo’n dda ar ôl bod i’r tŷ bach a chyn paratoi nu fwyta bwyd yw’r ffordd orau o atal i feirws rhag lledaenu.
“Gall plant drosglwyddo’r feirws i eraill heb gael symptomau felly rydym yn atgoffa rhieni i annog golchi dwylo’n dda bob amser.”