Mae gan y blaid Lafur ffordd bell i fynd i allu ennill etholiad cyffredinol, yn ôl Alastair Campbell, cyn-sbin-ddoctor Tony Blair.
“Os na allwn ni guro’r siambls yma o blaid Dorïaidd, dydyn ni ddim yn haeddu bod yn y gêm,” meddai mewn araith yn beirniadu cyflwr ei blaid o dan Jeremy Corbyn.
Dywedodd fod ei deyrngarwch llwythol at y blaid Lafur yn cael ei wthio i’r eithaf ar hyn o bryd.
Mae’n cyhuddo Jeremy Corbyn a’i gefnogwyr o ddangos mwy o elyniaeth yn erbyn rhai o gefnogwyr eraill Llafur nag yn erbyn y Torïaid, ac mae’n beirniadu eu polisi tramor.
“Mae’r arweinyddiaeth yn benderfynol o amau bod y Rwsiaid yn gyfrifol am Salisbury neu fod Assad wedi ymosod ar ei bobl ei hun â nwy gwenwynig,” meddai.
Galw am wrthwynebu Brexit
Dywedodd hefyd na ddylai Llafur wneud dim i gefnogi cynlluniau Theresa May ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Os byddan nhw’n gwneud hynny, er mai’r Torïaid fydd yn cael eu gweld fel pensaer Brexit, Llafur fydd ei adeiladwr a bydd hanes yn ddidrugaredd pan fydd y tŷ yn dymchwel,” meddai.
“Gadewch inni dynnu sylw at risgiau a chostau, celwyddau, twyll a throseddu posibl Brexit heb ddal dim yn ôl.”