Mae disgwyl y bydd arweinwyr a gwleidyddion y Gymanwlad yn trafod heddiw a ddylai’r Tywysog Charles olynu’r Frenhines fel pennaeth y sefydliad.
Mi fydd y 53 arweinydd o wledydd y Gymanwlad, gan gynnwys Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn trafod y mater mewn cyfarfod preifat yn Nghastell Windsor ddydd Gwener, Ebrill 20.
Datganiad y Frenhines
Fe gafodd y Tywysog Charles hwb i’w obeithion ddoe ar ôl i’r Frenhines ddatgan yn gyhoeddus ei bod hi’n dymuno mai ei mab fydd yn ei holynu yn y dyfodol fel pennaeth y Gymanwlad.
Dywedodd mai ei “gwir ddymuniad” yw gweld ei mab yn ei holynu “rhyw ddydd”, wedi iddi fod yn y swydd ers 1952.
Cefnogaeth arweinwyr
Mae rhai arweinwyr eisoes wedi mynegi eu cefnogaeth i ddymuniad y Frenhines, gyda’r rheiny’n cael eu harwain gan Theresa May a ddywedodd trwy ei llefarydd fod gan y Tywysog Charles “gefnogaeth” Llywodraeth Prydain.
Dywedodd Prif Weinidog Canada wedyn, Justin Trudeau, ei fod hefyd yn “cytuno” â dymuniad y Frenhines, ac mae Prif Weinidog Grenada, Keith Mitchell, wedi dweud y bydd yn “newyddion da” pe bai’r tywysog yn esgyn i’r swydd.
Arweinwyr i benderfynu
Er bod y swydd o bennaeth y Gymanwlad yn draddodiadol wedi cael ei dal gan aelod o deulu brenhinol Lloegr, dyw hi ddim yn angenrheidiol i ddewis olynydd o’r teulu hwnnw.
Yn dilyn cyfnod y Frenhines, mae’r penderfyniad am hynny yn nwylo arweinwyr y Gymanwlad.
Ond er bod disgwyl i’r arweinwyr ddewis mab hynaf y Frenhines fel olynydd, mae’n bosib na fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud heddiw.
Ymhlith materion eraill a fydd yn cael eu trafod yn yr uwchgynhadledd heddiw fydd yr amgylchedd, diogelwch seibr a masnach.