Mae nifer y bobol o wledydd Prydain sydd wedi derbyn dinasyddiaeth o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd wedi dyblu ers 2016, yn ôl ffigyrau newydd.

Fe gafodd cyfanswm o 6,555 o geisiadau eu cymeradwyo yn 2016, sef blwyddyn y refferendwm ar Brexit, gyda chynnydd o 2,478 ers y flwyddyn gynt.

Dyma’r nifer uchaf ers i gofnodion gael eu cadw am y tro cyntaf yn 2002, yn ôl y corff ystadegol, Eurostat.

Roedd tua phedwar allan o bob deg (41%) wedi gwneud cais ar gyfer dinasyddiaeth o’r Almaen, tra bo 15% ar gyfer Sweden, a 10% ar gyfer yr Iseldiroedd.

Yn ôl Jonathan Portes, Athro mewn Economeg yn King’s College, Llundain, mae’n amlwg mai Brexit sydd wedi gyrru’r cynnydd hwn, ac fe fyddai’n “syndod” os na fydd y duedd hon yn parhau.

Y ffigyrau

Yn ôl Eurostat eto, mae’r ffigyrau yn cynnwys pobol sydd wedi gwneud cais i fod yn ddinasyddion dwbwl, ynghyd â’r rheiny sydd wedi dileu eu dinasyddiaeth o’r Deyrnas Unedig yn llwyr.

O’r 6,555 o’r ceisiadau yn 2016, dim ond 2% oedd ar gyfer dinasyddiaeth yn Iwerddon.

Roedd y ffigyrau hefyd yn dangos bod 995,000 o bobol, sy’n byw a gweithio ledled yr Undeb Ewropeaidd, wedi derbyn cais ar gyfer bod yn ddinasyddion o wledydd yr Undeb.

Pobol o Foroco, Albania ac India oedd ymhlith y prif bobol, gyda 59% o India a 51% o Pakistan yn derbyn dinasyddiaeth Ewropeaidd gan y Deyrnas Unedig.

Llywodraeth Prydain oedd yn gyfrifol am roi dinasyddiaeth i’r mwyafrif o bobol o Nigeria, Ynys y Ffilipinas a Tseinia hefyd.