Mae mwy na 50 o ddiffoddwyr tân yn ceisio brwydro’r fflamau mewn garej yn Glasgow.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tân yn Stryd Scotland tua 5yb ddydd Llun.
Mae’n debyg bod nifer o geir ar dân yn y garej.
Mae strydoedd gerllaw wedi eu cau i draffig fel rhagofal gan fod nifer o silindrau nwy ar y safle.