Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson wedi galw ar i uwch swyddog sydd yng nghanol ffrae am honiadau o wrth-Semitiaeth ymddiswyddo o’r corff sy’n arwain y blaid.

Galwodd ar i Christine Shawcroft “archwilio’i chydwybod” a chamu i lawr o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Llafur.

Dywedodd Tom Watson ei fod e hefyd yn disgwyl i gyn-Faer Llundain, Ken Livingstone gael ei ddiarddel o’r blaid yn barhaus yn dilyn ei sylwadau am Seioniaeth yn y 1930au.

Daw’r sylwadau yn dilyn pôl piniwn sy’n dangos bod tri chwarter aelodau’r Blaid Lafur yn credu bod yr honiadau am wrth-Semitiaeth wedi cael eu gorbwysleisio mewn ymgais i niweidio grym yr arweinydd Jeremy Corbyn.

Dim ond 19% o’r bobol atebodd holiadur You Gov ddywedodd fod y mater yn un difrifol, tra bod 77% yn cytuno ei fod yn ymgais i niweidio grym Jeremy Corbyn neu i atal y feirniadaeth o Israel.

Christine Shawcroft

Fe fu’n rhaid i Christine Shawcroft ymddiswyddo o’i rôl yn gadeirydd ar banel anghydfodau Llafur ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi’n gwrthwynebu diarddel ymgeisydd cyngor lleol oedd wedi’i gyhuddo o ymwrthod â chysyniad yr Holocost. Ond mae’n parhau’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.

 

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o gorddi’r dyfroedd gyda neges Facebook yn awgrymu bod y sefyllfa wedi cael ei gorbwysleisio er mwyn niweidio grym Jeremy Corbyn. Mae hi bellach wedi dileu’r neges.

Mae hi hefyd wedi ymddiheuro am ei hymdriniaeth o ffrae’r cynghorydd lleol, ac wedi dweud na fydd hi’n sefyll eto am y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn yr haf.

Ond mae Tom Watson yn galw ar iddi ymddiswyddo ar unwaith, gan ddweud wrth raglen Today BBC Radio 4 fod yna “broblem” o ran Christine Shawcroft.

Dywedodd bod y sefyllfa’n “ffiaidd” ac yn “tanseilio Jeremy”, ac nad oes ganddo fe na Jeremy Corbyn rym i’w symud o’i swydd gan iddi gael ei hethol gan aelodau’r blaid. Galwodd ar iddi wneud “y penderfyniad cywir”.

Mae hefyd yn galw ar i ysgrifennydd cyffredinol newydd y Blaid Lafur, Jennie Formby sicrhau bod datrysiad cyflym i sefyllfa Ken Livingstone, sydd wedi’i ddiarddel ers dwy flynedd.