Mae merch 14 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty yn Glasgow ar ôl i gar gael ei yrru at griw o blant.

Mae’r heddlu’n trin yr achos fel un o geisio llofruddio.

Roedd y plant – sydd rhwng 12 a 14 oed – yn sefyll ar balmant yn ardal Castlemilk y ddinas am 3.30 brynhawn dydd Sadwrn, a chawson nhw eu taro gan Vauxhall Astra arian.

Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn mewn perthynas â’r digwyddiad ar ôl iddo ffoi o safle’r gwrthdrawiad.

 

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.