Mae cyn-Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont yn y ddalfa ar ôl i heddlu’r Almaen ei arestio ar warant Ewropeaidd.

Maen nhw’n awyddus i’w holi ar amheuaeth o wrthryfela ac annog gwrthryfel mewn perthynas â refferendwm annibyniaeth y wlad fis Hydref y llynedd.

Roedd e ar ei ffordd o Ddenmarc i Wlad Belg pan gafodd ei arestio, yn ôl ei gyfreithiwr, a hynny ar ôl bod yn y Ffindir ers dydd Iau.

Fe fu’n alltud yng Ngwlad Belg ers mis Hydref, ac mae’n wynebu 30 o flynyddoedd dan glo. Roedd gwarant gwreiddiol i’w arestio wedi’i ddiddymu ym mis Rhagfyr, ond fe gafodd ei ail-gyflwyno ddydd Gwener.

Cafodd yr ymgeisydd arlywyddol diweddaraf, Jordi Turull ei arestio ddydd Gwener, gan arwain at brotestiadau yn Barcelona.