Mae cynnwys “bron pob potel ddŵr” wedi ei lygru gan ddarnau bach o blastig, yn ôl adroddiad newydd.
Fe fu ymchwilwyr o Brifysgol East Anglia yn astudio cynnwys poteli gan 11 cwmni ledled y byd, ac fe ddaethon nhw i’r casgliad bod “bron pob un wedi’u llygru i ryw raddau”.
Mae’r darnau plastig yn hynod o fach, ac yn amhosib i’w gweld heb ficrosgôp, meddai’r ymchwil. Ac fe ddaw’r darnau o ddillad a deunydd cosmetig gan amlaf.
Hollbresennol
“Rydyn ni’n dod yn fwy ymwybodol o bresenoldeb darnau plastig yn yr amgylchedd, ac o’u heffeithiau niweidiol,” meddai Dr Andrew Mayes, arweinydd yr astudiaeth.
“Mae adroddiadau o’u presenoldeb mewn dŵr tap, cwrw a llawer o fwydydd eraill. Ond, dw i’n credu bydd pobol yn synnu i glywed bod cynnwys bron pob potel ddŵr wedi’i lygru hefyd.”