Ni fydd trafodaethau ffurfiol yn cael eu cynnal rhwng y Deyrnas Unedig, Ewrop ac Iwerddon tros faterion Brexit, yn ôl y Taoiseach, Leo Varadkar.

Wrth ddiweddaru Aelodau Seneddol am ei chynlluniau, dywedodd y Prif Weinidog, Theresa May, y byddai’r Deyrnas Unedig a llywodraethau Iwerddon a’r Comisiwn Ewropeaidd yn “gweithio gyda’i gilydd” er mwyn osgoi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.

Ond mae Leo Varadkar yn dweud na  fyddai trafodaethau o’r fath o fudd i’w wlad, gan ychwanegu mai’r hyn sydd ei angen yw cynlluniau mwy manwl gan Downing Street.

Dywedodd y byddai’r trafodaethau yn cael eu cyfyngu i faterion sy’n unigryw i Iwerddon.

“Bydd yna drafodaethau rhwng 27 aelod yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig,” meddai’r Taoiseach. “Dyna fydd yn digwydd.”

“Ac mae Iwerddon yn un o’r 27 aelod. A gyda llaw, rydym yn llawer cryfach fel aelod o’r 27.”

Er hyn mae Leo Varadkar yn cydnabod y gallai Llywodraethau Iwerddon a’r Deyrnas Unedig ymgynghori gyda’i gilydd tros rhai materion penodol.