Mae’r bygythiad sy’n cael ei beri gan eithafwyr asgell dde yn cynyddu oherwydd y we, yn ôl grŵp ymgyrchu.

Pryder Hope not Hate yw bod brawychwyr y dde bellach yn gweithredu trwy ddulliau newydd gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Ac yn eu hadroddiad blynyddol  maen nhw’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r heddlu i wneud mwy i rwystro “lledaenwyr casineb”.

Daw’r rhybudd wedi i brif swyddog gwrth-frawychiaeth Prydain, Mark Rowley, ddatgelu bod pedwar cynllwyn asgell dde wedi’u rhwystro llynedd.

Bygythiad cynyddol

“Rydym yn wynebu bygythiad cynyddol gan frawychiaeth asgell dde eithafol ac eithafiaeth dreisgar,” meddai Prif Weithredwr Hope not Hate, Nick Lowles.

“Mae rhethreg yr asgell dde ar-lein yn troi’n fwy bygythiol, ac maen nhw bron i gyd yn credu bod rhyfel rhwng Islam a’r Gorllewin ar y gorwel. Dyma sy’n achosi’r bygythiad i gynyddu.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb trwy nodi bod yr adroddiad yn “taflu goleuni” ar dwf rhagfarn, a bod angen “i bawb” fynd i’r afael â hyn.