Mae cyn-filwr oedd â rhywbeth yn erbyn pobol yn cerdded eu cwn, wedi’i gael yn euog o lofruddio pensiynwr nad oedd erioed wedi’i gyfarfod o’r blaen.

Fe gafodd Peter Wrighton, 83, ei anafu â chyllell pan ymosododd Alexander Palmer, 24, arno o’r tu ol a llusgo ei gorff i ganol mieri ar Awst 5 y llynedd.

Roedd Peter Wrighton yn mynd â’i ddau gi am dro mewn coedwig ger East Harling, Norfolk.

Doedd yr heddlu ddim yn ymwybodol o Alexander Palmer nes i seicolegydd a oedd wedi bod yn ei drin yn RAF Marham wedi cysylltu a dweud y dylai’r awdurdodau gael sgwrs ag ef.

Tra yn y fyddin, roedd Alexander Palmer wedi cael ei anafu mewn ymosodiad, a’r gred ydi fod hynny wedi esgor ar broblemau meddyliol dwys.