Ni ddylai Brexit gael ei ddefnyddio fel esgus i chwalu’r Deyrnas Unedig – dyna fydd rhybudd gweinidog y Cabinet David Lidington ar ymweliad a Sir y Fflint heddiw.
Mae’r wlad ar groesffordd ond fe fyddai torri cysylltiad yn gadael pob un o’r pedair cenedl yn “wannach ac yn dlotach”, yn ôl David Lidington.
Mewn araith yn ffatri Airbus ym Mrychdyn ddydd Llun mae disgwyl iddo alw ar y Deyrnas Unedig i weithio gyda’i gilydd.
Cenhedloedd Prydain
Bydd yn mynnu bod ei Lywodraeth wedi ymrwymo i drosglwyddo sawl un o bwerau Ewrop i’r llywodraethau datganoledig, yn sgil Brexit.
Ond, bydd hefyd yn rhybuddio bod rhai pwerau sydd “yn amlwg” ar waith ledled y Deyrnas Unedig ac na fydd hyn yn newid.
“Mae’r undeb rhwng ein pedwar cenedl yn ein galluogi i fod yn fwy uchelgeisiol, na pe taswn ar ein pennau ein hunain,” bydd yn ychwanegu.
Jeremy Corbyn
Wrth i’r gweinidog draddodi ei araith yng ngogledd Cymru, bydd Arweinydd y Blaid Lafur yn amlinellu ei gynlluniau am Brexit dros y ffin yng nghanolbarth Lloegr.
Mewn araith yn Coventry, bydd Jeremy Corbyn yn dweud bod ei blaid yn galw am “berthynas newydd a chryf” â’r Farchnad Sengl.