Mae dyn 51 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio’i nith 11 oed yn Wolverhampton.

Cafodd Delroy Forrester ei arestio ar ôl i Jasmine Forrester gael ei chanfod ag anafiadau difrifol mewn eiddo ddydd Gwener.

Bu farw’r ferch yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Bydd ei hewythr yn mynd gerbron ynadon Walsall ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu West Midlands nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.

 

Cawson nhw eu galw ar ôl i gymydog glywed ffraeo.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.

 

Dywedodd ei thad fod Jasmine yn “seren ddisglair”.