Mae’r Llywodraeth yn ymchwilio i honiadau fod gweithwyr yr elusen Oxfam wedi defnyddio puteiniaid yn Haiti.
Roedd Oxfam eisoes wedi ymchwilio i’r honiadau a ddaeth i’r amlwg yn 2011 ac wedi hysbysu’r Comisiwn Elusennau wrth ddiswyddo pedwar aelod o staff. Roedd tri arall wedi ymddiswyddo cyn diwedd yr ymchwiliad.
Fodd bynnag, daw adroddiadau nad oedd Oxfam wedi dweud wrth elusennau eraill am ymddygiad y gweithwyr hyn.
Meddai llefarydd ar ran Adran Datblygu Rhyngwladol y Llywodraeth:
“Os oes camweddau, camdrin, twyll neu weithgaredd troseddol yn digwydd, mae angen inni wybodaeth amdano ar unwaith, yn llawn.
“Mae’r ffordd yr aed i’r afael â’r gamdriniaeth hon o bobl fregus yn codi cwestiynau difrifol y mae’n rhaid i Oxfam eu hateb.
“Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn adolygu’n gwaith presennol gydag Oxfam ac wedi gofyn am gyfarfod gyda’r tîm o uwch-reolwyr cyn gynted ag y bo modd.”