Fe fydd yr ymgais olaf i adfer sefydlogrwydd yng Ngogledd Iwerddon yn dechrau yn Stormont heddiw.

Aeth mwy na blwyddyn heibio bellach ers i sefydliadau gwleidyddol y wlad chwalu, ac mae cryn bwysau erbyn hyn ar wasanaethau cyhoeddus.

Daeth llywodraeth glymblaid y wlad i ben yn dilyn anghydfod am gynllun ynni gwyrdd rhwng yr Unoliaethwyr Democrataidd a Sinn Fein.

Ond mae’r anghydfod bellach yn ymestyn dros sawl maes, gan gynnwys yr iaith Wyddeleg, priodasau o’r un rhyw a’r gwrthdaro mewnol rhwng y Catholigion a’r Protestaniaid.

Fe fydd y trafodaethau diweddaraf yn cynnwys holl bleidiau’r wlad, yn ogystal ag Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Karen Bradley a dirprwy arweinydd Iwerddon, Simon Coveney.

Fe fydd pwysau ar San Steffan i ymyrryd y tro hwn pe na bai’r pleidiau’n dod i gytundeb. Mae disgwyl diweddariad o’r sefyllfa gan Karen Bradley ar Chwefror 7, pan fydd hi’n annerch San Steffan.

Mae Simon Coveney yn dweud ei fod yn disgwyl cytundeb “er lles pawb yng Ngogledd Iwerddon”.