Mae Tony Blair wedi ymosod ar bolisi’r Blaid Lafur o gefnogi Brexit, gan ddadlau y dylen nhw ei wneud yn “fater i’r Torïaid” yn unig ei sortio.

Mewn erthygl ar ei wefan ei hun, mae’r cyn-Brif Weinidog yn dweud fod yna beryg go iawn y bydd Brexit yn digwydd tra bo’r Blaid Lafur yn parhau’n “ofnus” o wrthwynebu’r Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Rydd.

Mae’r safbwynt hwn yn rhwystro ei blaid rhag ymosod ar yr “effeithiau enfawr” y bydd Brexit yn eu hachosi, meddai, ac fe allai Llafur ei chael ei hun mewn gwendid mawr pan fydd llywodraeth Geidwadol Theresa May yn llwyddo i sicrhau cytundeb gadael Ewrop ryw dro yn 2018.

Fe fyddai newid safbwynt yn rhyddhau Llafur i allu beirniadu record y Torïaid ar yr “heriau go iawn” hynny sy’n wynebu gwledydd Prydain.

“Fe allai’r Blaid Lafur wneud ymosodiad pwerus ar record y Llywodraeth ar bethau o gyflwr gwael y Gwasanaeth Iechyd i faterion trosedd,” meddai Tony Blair.

“Mae’n well ymladd dros hawl y Deyrnas Unedig i ailfeddwl am Brexit,” meddai wedyn. “Rhaid mynd i dir uchel yn gwrthwynebu Brexit, a mynd ar ôl y Torïaid dros ei methiannau i ddatrys yr heriau go iawn wedyn.”