Fe fydd dau ddyn yn mynd gerbron ynadon heddiw ar gyhuddiad o droseddau brawychol ar ôl i’r heddlu fod yn ymchwilio i ymosodiad posib dros gyfnod y Nadolig.
Mae Andi Sami Star, 31, o Chesterfield, a dyn 22 oed o Sheffield wedi cael eu cyhuddo o fod yn gysylltiedig â pharatoi gweithred frawychol, meddai Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.
Fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster yn Llundain ddydd Gwener drwy gyswllt fideo.
Roedd y ddau ymhlith pedwar o ddynion a gafodd eu harestio yn Swydd Derby a De Swydd Efrog ar 19 Rhagfyr.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog bod dyn 36 oed o Burngreave yn Sheffield yn parhau yn y ddalfa tra bod dyn 41 oed o Meersbrook yn Sheffield wedi cael ei ryddhau ddydd Sadwrn.