Fe all pobol leihau’r risg o ddatblygu sawl afiechyd, trwy yfed rhwng tair a phedair paned o goffi bob dydd, yn ôl arbenigwyr.

Yn ôl gwaith ymchwil newydd, mae yfed coffi yn gymhedrol yn gwbwl ddiogel, oni bai eich bod yn feichiog neu’n fenyw sy’n dueddol o dorri asgwrn.

Fe wnaeth arbenigwyr o Brifysgol Southampton a Phrifysgol Caeredin edrych ar dystiolaeth o dros 200 o astudiaethau, oedd yn ymchwilio i effaith coffi ar iechyd.

Casgliad y gwaith oedd bod yfed rhwng tair a phedair cwpan bob dydd yn eich gwneud yn llai tebygol o farw o broblemau fel trawiad ar y galon a strôc, o gymharu ag yfed dim coffi o gwbl.

Mae’n debyg bod yfwyr coffi dyddiol yn 18% yn llai tebygol o gael canser, sy’n cynnwys canser y prostad, canser y croen a chanser yr afu.

Mae coffi hyd yn oed wedi’i gysylltu â risg is o ddatblygu afiechyd Parkinson, iselder ac Alzheimer.

Ond mae’r awduron wedi galw am fwy o ymchwil i’r maes a dywed na ddylai meddygon argymell yfed coffi i atal afiechydon.