Mae’n bosib nad yw clefyd Alzheimer yn tarddu yn yr ymennydd, yn ôl ymchwil newydd.
Mae gwyddonwyr yn credu bod math penodol o brotin sydd yn gysylltiedig â’r cyflwr yn ymddangos mewn rhan arall o’r corff cyn treiddio trwy haen amddiffynnol yr ymennydd.
Mae’r protin ‘amyloid-beta’ yn casglu yn ymenydd cleifion Alzheimer, ond mae hefyd yn ymddangos yn y gwaed, mewn gwythiennau ac yn y cyhyrau.
Pe bai’r theori’n cael ei brofi’n gywir, byddai’n golygu bod modd targedu’r protinau yma yng ngweddill y corff, cyn eu bod yn cyrraedd yr ymennydd.
“Haint ar yr ymennydd yw clefyd Alzheimer wrth gwrs, ond rhaid i ni dalu sylw i’r corff cyfan er mwyn ei ddeall,” meddai prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Weihong Song o Brifysgol Columbia Brydeinig yn yr Unol Daleithiau.
Dim gofid
“Does dim angen i bobol ofidio – hyd yn oed o ystyried yr astudiaeth yma,” meddai James Pickett wedyn, Pennaeth Ymchwil Cymdeithas Alzheimer.
“Does dim tystiolaeth bod clefyd Alzheimer yn medru cael ei drosglwyddo i chi – er enghraifft trwy dderbyn gwaed yn yr ysbyty.”