Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain yn wynebu ymchwiliad yn dilyn honiadau ei fod e wedi gorchymyn aelod o staff i brynu teganau rhyw ar ei ran.

Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn penderfynu a ddefnyddiodd y Gweinidog Masnach Ryngwladol, Mark Garnier iaith oedd yn bychanu ei ysgrifenyddes.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi galw am gyflwyno trefn newydd i fynd i’r afael ag achosion o’r fath yn San Steffan.

Mae amheuon fod nifer o weinidogion eraill wedi ymddwyn mewn modd tebyg.

Daw’r honiadau diweddaraf yn dilyn helynt y cyfarwyddwr ffilmiau, Harvey Weinstein.

‘Cwbl annerbyniol’

Mewn cyfweliad ar raglen Andrew Marr y BBC, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt fod ymddygiad honedig Mark Garnier yn “gwbl annerbyniol”.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Prydain, Theresa May ei bod hi’n galw am drefn newydd ac wedi gorchymyn ymchwiliad i’r honiadau.

 

 

 

Mae Mark Garnier wedi cyfaddef gwneud sylwadau sarhaus, ond mae e’n gwadu eu bod “yn gyfystyr ag aflonyddu”.