Mae Heddlu’r Gogledd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhybuddio am beryglon cyffuriau tebyg i ecstasi yn dilyn marwolaeth bachgen 16 oed mewn parti Calan Gaeaf.

 

Mae lle i gredu ei fod e wedi bod mewn parti yn Abergele ac wedi cymryd tabledi pinc siâp sgwâr ac arnyn nhw logo Rolls Royce.

Dylai unrhyw un sydd wedi cymryd tabledi o’r fath fynd i’r ysbyty ar unwaith, yn ôl yr heddlu.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 1 o’r gloch y bore ma.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, lle bu farw’n ddiweddarach.

 

 

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.