Mae disgwyl i boblogaeth y Deyrnas Unedig godi i 70 miliwn erbyn diwedd y ddegawd nesaf, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Ar hyn o bryd mae rhyw 65.6 miliwn o bobol yn byw yn y Deyrnas Unedig ac mae disgwyl iddo gynyddu gan ryw bum miliwn erbyn canol 2029.

Mae’r rhagolygon gan y Swyddfa Ystadegau yn awgrymu mai mewnfudo rhyngwladol fydd yn gyfrifol am dros hanner y cynnydd.

O holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, poblogaeth Cymru fydd yn tyfu leiaf dros y ddegawd nesaf mae’n debyg – â thwf o ond 3.1%.

Er y cynnydd disgwyliedig yn y boblogaeth mae arbenigwyr yn disgwyl i’r twf arafu dros amser, am nifer o resymau gan gynnwys llai o fudo rhyngwladol.