Mae ditectifs wedi arestio dynes o Gymru ar amheuaeth o smalio bod yn nyrs am bedair blynedd a thrin cannoedd o gleifion yn Swydd Caint.

Cafodd y ddynes 46 oed o Aberhonddu ei harestio ar amheuaeth o dwyll gan yr heddlu sydd wedi bod yn ymchwilio i’w chyfnod yn gweithio mewn pedair meddygfa yn Medway rhwng Awst 2006 a mis Medi’r llynedd.

Mae swyddogion iechyd wedi cysylltu â mwy na 1,400 o bobol, gan gynnwys plant, dderbyniodd frechiadau a phrofion ceg y groth ganddi.

Mae cleifion gafodd brofion ceg y groth ganddi wedi cael cynnig prawf arall, a bydd brechiadau ychwanegol hefyd yn cael eu cynnig i gleifion eraill.

Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Swydd Caint fod y ddynes wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth nes fis nesaf.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw’n amau iddi gael swydd yn nyrs heb fod ganddi’r cymwysterau cywir.

Ond mynnodd Dr James Thallon, cyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Swydd Caint, nad oedden nhw wedi gweld unrhyw beth o’i le ar ei gwaith ac nad oedd iechyd unrhyw un wedi ei niweidio.

“Er mwyn bod yn saff rydyn ni wedi ysgrifennu at rai cleifion yn unigol a’u gwahodd nhw i gael gweld nyrs arall,” meddai.