Mae yna ragor o bryder y bydd y Deyrnas Unedig yn dioddef ail ddirwasgiad eleni wrth i’r sector gwasanaethau arafu’n sylweddol ym mis Awst.

Tyfodd y sector 1.1% ym mis Awst o’i gymharu â 5.4% ym mis Gorffennaf, y tro cyntaf i’r sector arafu i’r fath raddau ers y clwy traed a’r genau deg mlynedd yn ôl.

Mae’r sector gwasanaethau yn cynrychioli tua 75% o economi Prydain, ac mae’r data yn waeth nag oedd yn dilyn chwalu banc Lehman Brothers ar ddechrau’r argyfwng ariannol yn 2008.

Dywedodd economegwyr fod y ffigyrau yn awgrymu y gallai Cynnyrch Domestig Gros grebachu yn y trydydd chwarter,

Fe allai hynny roi pwysau ar Fanc Lloegr i argraffu rhag o arian er mwyn ceisio rhoi hwb i’r adferiad economaidd.

Tyfodd economi’r Deyrnas Unedig 0.2% yn unig rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, ond roedd hynny’n bennaf seiliedig ar dwf o 0.5% yn y sector gwasanaethau.

“Mae twf ym mhob sector yn yr economi bellach yn wan iawn, felly mae yn mynd yn fwy tebygol ein bod ni’n mynd i weld dirwasgiad dwbl,” meddai Samuel Tombs o Capital Economics.