Fe fyddai yn gwneud synnwyr ariannol i rai rhieni aros adref yn hytrach na gweithio’n rhan amser os oes plant â nhw, yn ôl ymchwil newydd.

Fe allai rhai mamau fod £100 yn dlotach o ganlyniad i’w penderfyniad i weithio, meddai cwmni yswiriant Aviva.

Maen nhw’n dweud ei fod yn costio £120 ar gyfartaledd i fynd i’r gwaith bob mis, bod costau gofal plant yn £288 ar gyfartaledd dros yr un cyfnod, a bod cost anfon a plentyn i’r ysgol yn £147.

Yn ôl yr ymchwil mae mamau sydd mewn gwaith rhan amser yn ennill £8,557 bob blwyddyn ar gyfartaledd, neu £713 y mis ar ôl treth.

Ond fe fyddai mam sydd â dau o blant, un yn saith oed a’r llall yn un, yn talu £721 am ofal plant ac ysgol, a £90 am fynd i’r gwaith.

Fe fyddai ganddi £98 ychwanegol bob mis os nad oedd hi’n gweithio yn rhan amser, yn ôl yr ymchwil.

Mae’r cwmni yn honni fod mwy na 32,000 o famau wedi penderfynu aros adref yn hytrach na gweithio ers y trydydd chwarter y llynedd.

“Mae’r adroddiad yn dangos yn glir yr her y mae teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ei wynebu wrth geisio cael y cydbwysedd rhwng incwm a chostau gofal plant,” meddai Louise Colley o Aviva.

“Wrth i gostau gynyddu mae’n bosib iawn y byddwn ni’n gweld rhagor o gyplau yn dibynnu ar un cyflog wrth i’r person arall edrych ar ôl y plant.

“Er bod hynny’n gwneud synnwyr ariannol mae’n golygu fod teuluoedd mewn rhagor o berygl pe bai rhywbeth yn digwydd i’r person sy’n ennill cyflog.”