Mae ynadon yn gwadu gorymateb i derfysgoedd fel hwn yn Tottenham ddechrau'r mis (Llun PA)
Mae ynadon yn gwrthod beirniadaeth gan arweinydd llywodraethwyr carchardai Prydain eu bod nhw wedi gorymateb i’r terfysgoedd diweddar yn ninasoedd Lloegr.

Roedd Eoin McLennan-Murray, llywydd Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchardai, wedi honni bod ynadon wedi colli pob synnwyr o gymesuredd wrth ddedfrydu troseddwyr a oedd yn gysylltiedig â’r helyntion.

“Nid apelio at y meddylfryd popiwlist yw’r sail gorau i ddedfrydu pobl,” meddai. “Mae canllawiau dedfrydu’n cael eu hanwybyddu.”

Dywedodd fod saith gwaith cymaint o bobl ag arfer yn cael eu cadw yn y ddalfa wrth ddisgwyl eu prawf, a bod hyn yn rhoi pwysau ar leoedd mewn carchardai.

“Mae’r math yma o gyfiawnder ar frys yn debygol olygu y bydd nifer o bobl yn cael eu trin yn annheg,” meddai.

‘Afresymol a di-sail’

Ond dywed cadeirydd Cymdeithas yr Ynadon, John Thornhill, fod yr honiadau’n “afresymol a di-sail”.

“Dyw canllawiau dedfrydu ddim yn cael eu hanwybyddu,” meddai.

“Mae’r canllawiau’n eglur iawn. Gadewch inni gofio bod y rhain yn droseddau difrifol. Yn y mwyafrif o achosion mae pobl wedi cael eu cyhuddo o fwrgleriaeth, ac mewn rhai achosion, o fwrgleriaeth ymosodol.

“Mewn cyfnod byr iawn o amser mae llawer iawn mwy o bobl – saith gwaith yn fwy – wedi cael eu harestio am saith gwaith cymaint ag arfer o droseddau difrifol. Felly fe ellid disgwyl saith gwaith cymaint o ddedfrydu.”

Ychwanegodd fod y feirniadaeth o ynadon yn gamarweiniol gan fod “y mwyafrif llethol o ddedfrydau wedi cael eu gosod gan y farnwriaeth broffesiynol, nid gan ynadon lleyg.”