Mae adfywiad economaidd Prydain wedi arafu yn ystod ail chwarter 2011, yn ôl y ffigurau diweddaraf sy’n dangos twf o 0.2% mewn GDP dros y cyfnod.

Mae hyn yn cymharu â thwf o 0.5% yn ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) am y chwarter blaenorol.

Dywed yr ONS fod amryw o ffactorau tymhorol wedi cymylu’r darlun, gan gynnwys y briodas frenhinol a gwanwyn anarferol o boeth.

Er bod economegwyr yn disgwyl twf cryfach yn nhrydydd chwarter y flwyddyn, dydyn nhw ddim yn obeithiol am welliant sylweddol yng nghyflwr yr economi.

“Gyda’r cythrwfl diweddar yn y marchnadoedd arian, rydyn ni’n amau’n gryf y bydd unrhyw gynnydd bach mewn twf GDP yn ailgynnau’r adfywiad,” meddai Samuel Tombs, prif economegydd Prydain y cwmni Capital Economics.

Golyga’r ffigurau diweddaraf fod cyfanswm cynnyrch y Deyrnas Unedig wedi tyfu 0.7% mewn blwyddyn, sy’n golygu bod yr economi’n aros yn ei hunfan i bob pwrpas ar ôl y dirwasgiad ac yn sgil toriadau’r Llywodraeth.

Yn ogystal â gwasgfa ar wario gan ddefnyddwyr yn sgil chwyddiant, mae allforion hefyd wedi dod o dan bwysau yn sgil argyfwng dyledion ardal yr Ewro.