David Cameron
Mae David Cameron wedi addo gweithredu er mwyn trwsio cymdeithas doredig Prydain yn sgil y terfysg yn Lloegr yr wythnos diwethaf.

Honnodd y Prif Weinidog fod nifer o’r rheini fu’n rhan o’r aflonyddwch yn dod o gartrefi heb dadau, ac wedi gorfod chwilio am eu delfryd ymddwyn ar y strydoedd.

Addawodd y byddai yn sicrhau fod pob un o bolisïau Llywodraeth San Steffan o fudd i deuluoedd, a wfftiodd pryderon y byddai hynny yn arwain at lywodraeth sy’n ymyrryd yn ormodol ym mywydau pobol.

“Y cwestiwn yr oedd pobol yn ei ofyn drosodd a throsodd yr wythnos diwethaf oedd ‘Lle mae’r rhieni? Pam nad ydyn nhw’n cadw’r plant yn y tŷ?’,” gofynnodd.

“Yn anffodus mae’r barnwyr bellach yn gofyn ‘Pam nad yw’r rheini yn dod i’r llys gyda’u plant?’

“Os ydych chi’n ystyried hynny mae’n amlwg pam fod y plant yn ymddwyn mor ofnadwy.

“Naill ai doedd yna neb gartref, neu doedden nhw ddim yn malio, neu mi’r oedden nhw wedi colli rheolaeth dros eu plant.

“Does gen i ddim amheuaeth nad oedd tad gartref gan nifer o’r rheini fu’n troseddu’r wythnos diwethaf.

“Efallai eu bod nhw’n dod o gymuned lle mae’n arferol nad oes gan blant mam a thad. Mae’r hogiau ifanc yn gorfod chwilio ar y stryd am rywun i fod yn dad iddyn nhw.

“Os oes unrhyw obaith i ni drwsio ein cymdeithas doredig, mae’n rhaid dechrau drwy ystyried teuluoedd a rhieni.”

Dywedodd y byddai yn sicrhau fod polisïau’r llywodraeth yn atgyfnerthu pwysigrwydd y teulu.

“Os ydi’r polisi yn gwanhau’r teulu, yn tanseilio ymrwymiad, yn atal teuluoedd rhag bod â’i gilydd, fyddwn ni ddim yn ei wneud.”